Ond er gwrando, methodd Justin a chael allan yr hyn a hoffai wybod. Yna efe a ddaeth at ei dad, "wedi myned o'r boneddwr ymaith, gan bwyso ar ei lin, a dangos trwy ei ymddygiad foJ rhywbeth ar ei feddwl, ond ei fod yn petruso ei amlygu.
" A oes arnat eisieu gwybod rhywbeth, Justin?" meddai Mr. Hall.
" Oes, syr; hoffwn wybod am bwy yr oeddych chwi yn son, pan y dywedasoch fod llew ar ei ffordd yn wastadol? "
Deallodd Mr. Hall, oddiwrth ymddangosiad ei fab, ei fod yn cymeryd ei eiriau yn llythyrenol. Teimlai barodrwydd i chwerthin am ei ben, ond ataliodd, rhag i hyny archolli ei deimladau, neu ddigaloni ei chwilfrydedd canmoladwy. Atebodd, "Am Mr. Harris yr oeddwn i yn siarad, Justin, ond rhaid i tithau gymeryd gofal rhag i lew ddod ar dy ffordd."
"Ond beth a allwn i wrtho os mynai ddyfod?— nid wyf fi yn ddigon cryf i wrthwynebu llew."
"Pa fath ysgolhaig ydyw Robert Carr?"
Nis gallai Justin ddyfeisio beth oedd dyben ei dad yn gofyn y fath gwestiwn, a chymaint oedd ei syndod fel nad atebodd y gofyniad gyda'i barodrwydd arferol. O'r diwedd dywedodd, gyda gradd o betrusder. "Wn i ddim."