"Tewch," meddai y ceffyl, "fe wyr pawb mai yr hwn sydd a lleiaf o ymddiried yn uniondeb ei fater ydyw yr un cyntaf i feio penderfyniad ei farnwr."
Dewiswyd dyn yn farnwr. "Aroswch funud," meddai y llew, "cyn cyhoeddi eich barn. Yn ol pa reol, ddyn, y bydd i chwi benderfynu eu teilyngdod?"
"Yn ol pa reol?" atebai yntau, "rhaid mai yn ol y graddau yr ydych yn ddefnyddiol i ddynion."
"Campus," meddai y llew, yn ymwybodol o'r sarhad, "os felly, pa mor bell y gosodir fi islaw yr asyn! Ni chewch chwi, O ddyn, fod yn farnwr arnom. Ymgynghorwn â'n gilydd ar y mater."
Aeth y dyn ymaith. "Yn awr," meddai y twrch yn watworus, a gydag ef yr eppa a'r draenog, "a wyt ti y ceffyl yn gweled fod y llew yn meddwl fel ninau nas gall dyn fod yn farnwr arnom? Mae y llew a ninau yn hollol o'r un farn."
"Ydwyf," meddai y llew, gan droi golwg ddiystyrllyd arnynt, "ond oddiar ystyriaethau hollol wahanol i chwi, cofiwch."
Yna y llew a chwanegodd, "Os wyf fi yn deall yn iawn, y mae y ddadl bresenol yn un dra annheilwng. Pa wahaniaeth i mi, pa un a ystyrir fi