Gwirwyd y dudalen hon
y mwyaf neu y lleiafo bawb? Os wyf yn adnabod fy hunan, dyna ddigon." Ar hyn aeth ymaith oddiwrthynt.
Darfu i'r cawrfil call ddilyn ei esiampl. Yna y dywalgi dewr, yr arthes brudd, y llwynog cyfrwys, a'r ceffyl boneddigaidd. Yn fyr, aeth pawb allan ag oeddynt yn teimlo neu yn credu eu bod o ryw werth.
Y rhai a arhosasant yn ol ac a wnaethant fwyaf o drwst fod y ddadl ar ben oedd yr "eppa" a'r "asyn".
Boreuol Weddi Plentyn.
DAETH gwawr y dydd, â gwridog rudd,
I'm deffro o fy hân;
Cydnabod wnaf fy nefol Naf,
Dy ofal o'r fath un.
Rhag pob rhyw ddrwg yn ddyogel dwg
Fi, trwy y dydd heb goll;
Rho'th gwmni i mi, fy Iesu cu,
A maddeu'm beiau oll.