Gwirwyd y dudalen hon
Dysg i mi yr edrych Duw
Ar y lleiaf peth yn fyw.
Rhodd i'r gloyn gorff hardd ei wedd,
Ac oni cheidw fi hyd fedd?
Yn ei air gorchymyn rydd
I mi ei geisio nos a dydd,
Yna bydd yn Dad o hyd,
Im' tra byddaf yn y byd.
- YR AIL FACHGEN.
Gwel'd 'rwyf fi mor ffol yw byw
'N falch o'r dillad gore'u rhyw;
Gan fod i'r gloyn bach difri
Harddach gwisg na'r eiddof fì:
Beth os wyf yn llwm fy llun ?
'Dwyf un mymryn gwaeth er hyn,
Nac yn well pe cawn yn awr
Wisgoedd goreu daear fawr.
- Y TRYDYDD BACHGEN.
I orwedd fe roddwyd fy chwaer yn ei chryd,
Cyffyrddais a'i gwyneb, ond parodd yn fud;
Pan alwais ei henw, fe ddwedwyd i mi
Mai marw fy chwaer, ac mai ofer fy nghri.