Ond clywais ein gweinidog ni
Yn dweud y deuai Iesu cu,
Rhyw ddydd sydd gerllaw i'w chyfodi o'r bedd,
A'i dwyn i fwynhad o ogoniant a hedd :
Wrth syllu ar wychder y gloyn bach yn syn,
A chofio beth ydoedd rhyw wythnos cyn hyn,
Rwy'n credu'n ddiysgog y gwawria y dydd,
Daw hithau o afael y creulon yn rhydd.
Mae Ef yn alluog i ddwyn hyn i ben,
Ac fe wna'r hyn a all — boed felly, Amen.
Gwers Olaf y Fam.
PLENTYN ieuanc o'r enw Roger L—— a agorodd y drws, a chan edrych yn ddirgelaidd i'r ystafell lle y gorweddai ei fam afiach, a ddywedodd, "A fyddwch chwi cystal a dysgu i mi fy adnod, mam, a rhoddi i mi gusan, a dywedyd nos da'wch wrthyf? Yr wyf mor gysglyd, ac nid oes neb wedi gwrando arnaf yn dweyd fy mhader eto."
Yr oedd Mrs. L—— yn glaf iawn ar y pryd; yn wir ofnai y rhai oedd yn gweini iddi ei bod yn marw. Cynhelid hi yn ei heistedd gan glustogau; anadlai yn boenus; yr oedd ei gwefusau yn