fath gyferbyniad dyeithr rhwng gwallt euraidd a bochau cochion y plentyn, â gwyneb llwyd ac oer yr un oedd ar drengu! O! y truan diniwed, bychan y gwyddai am y golled anadferadwy yr oedd yn fuan i'w phrofi.
"Roger, fy mab, fy anwyl blentyn," meddai ei fam wrtho, "(dywed yr adnod hon ar fy ol i,a phaid byth, byth, ei annghofio,— "Pan yw fy nhad a fy mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Adroddodd y plentyn yr adnod yn eglur, ac yna dywedodd ei weddi fechan, ac wedi cusanu gwefusau oer ei fam, prysurodd i'w wely.
Pan ddeffrodd boreu dranoeth, ymwelodd fel arferol ag ystafell ei fam, ond yr oedd dystawrwydd marwolaeth yn teyrnasu yno. _Yr oedd ei fam wedi dysgu ei gwers olaf iddo.
Nid yw efe eto wedi anghofio y wers hono, ac o bosibl na wna efe byth. Mae bellach yn ddyn, ac yn ddyn duwiol hefyd, ac yn llenwi sefyllfa o enwogrwydd ac anrhydedd. Byth nis gallaf edrych arno heb feddwl am y ffydd a amlygwyd mor hynod gan ei fam pan yn marw. Ac ni siomwyd ei ffydd hi ychwaith, canys yr "Arglwydd a dderbyniodd" ei hanwylyd.
Ddarllenydd ieuanc, nid oes achos i ti ofni os