Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/84

Gwirwyd y dudalen hon

ynddo, ond dygant hwy yn y diwedd i gywilydd athrallod. Gadewch i ni ystyried rhai o henynt.

Y mae Hugh yn chwareu ar ei ffordd i'r ysgol nes y mae haner awr dros yr amser; y mae arno ofn y meistr a'r gospedigaeth sydd yn ei aros; ac fel y mae yn ystyried pa beth i'w wneyd, y mae Satan, ag sydd bob amser yn ymyl, yn gwneyd pont i Hugh—pont o gelwydd—a dyweda wrth y meistr "mai ei dad a'i hanfonodd ar neges."

Y mae Jane yn gafael mewn peth na ddylasai; yn fuan clywir swn uchel, y mae y gwydr neu y gwpan yn deilchion. Ofna y canlyniadau, ac yn lle cyffesu ei bai ar unwaith fel lodes dda, ceisia guddio ei phechod. Gwna Satan bont iddi a'i galluoga i fyn'd dros ei dyryswch; ac yna y mae yn casglu y darnau ac yn eu gosod wrth eu gilydd yn ofalus nes yr edrycha y llestr yn gyfan, doda yn ei le a gadawa i rhywun arall afaelyd ynddo yn ddifeddwl, a chael y bai am ei dori hefyd.

Fy nghyfeillion ieuangc, cofiwch mai pontydd y diafol ydyw pob math o dwyll ac anwiredd. Gwir y gallant eich cynorthwyo ar y pryd i fyn'd dros y dyryswch; ond yn y diwedd, arweiniant i ganlyniadau ofnadwy.