Tudalen:Clasuron Rhyddiaeth Cymru.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

13. Pwy a gyfarwyddodd Yspryd yr Arglwydd? ac yn ŵr o'i gyngor a'i hyfforddiodd ef? 14. A phwy'r ymgynghorodd efe, ie [pwy] ai hyfforddiodd ac a'i dyscodd mewn llwybr barn? ac a ddyscodd iddo wybodaeth, ac a gyfarwyddodd iddo ffordd deallgarwch?

15. Wele'r cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel brychewyn oddi wrth gloriannau wele fel brychewyn y bwrw efe ymaith yr ynysoedd.

16. Ac nid digon Libanus yn dân, nid digon ei fwyst-filod ychwaith yn boeth offrwm.

17. Yr holl genhedloedd [ydynt] megis diddim ger ei frô ef, yn llai na dim, ac [na] gwagedd y cyfrefwyd hwynt ganddo.

18. I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch chwi i fynu iddo ef?

19. Y saer a lunia gerf-ddelw, a'r aurych a'i goreura, ac a dawdd gadwyni o arian.

20. Yr hwn sydd arno eisieu offrwm a ddewis bren heb pydru, cais ef atto saer cywraint i baratoi cerf-ddelw yr hon ni syfl.

21. Oni ŵyddoch, oni chlywch, oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad, oni ddeallwch sciliad y ddaiar?

22. [Myfi ydwyf] yr hwn a eistedd ar amgylchoedd y ddaiar, (pan [yw] ei thrigolion fel locustiaid) yr hwn a estyn y nefoedd fel cortyn, ac a'i Ileda fel pabell i drigo [ynddi].