RHAGYMADRODD.
Fe gyhoeddwyd o dro i dro amryw gasgliadau o Farddoniaeth Gymreig, ond nid oes neb eto, hyd ag y gwn i, wedi dwyn allan yr un gyfrol fer a chryno o bigion rhyddiaith glasurol Cymru.
Fy amcan gyda'r gyfrol fechan hon ydyw dangos i ieuenctyd Cymru,—yn enwedig i ddisgyblion уг Ysgolion Canolraddol a'r Colegau,—fod y fath beth yn bod a Chymraeg cadarn, ystwyth, safonol, wedi ymddangos yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; ac nid oes well athraw i ddysgu arddull dlos mewn ysgrifennu a siarad Cymraeg na darllen yn fanwl weithiau digymar yr hen awduron Cymreig.
Ceisiais gyfyngu darnau y llyfr hwn i ysgrifennwyr sy'n cael eu cydnabod gan lenorion yn gyffredinol fel awduron safonol. Credaf nas beiir fi am un darn sydd ynddo: feallai y'm beiir am adael rhannau allan a ddylent fod i mewn. Ond fy esgus barod ydyw fod gennyf awydd cryf am i'r llyfr fod yn fychan, ac felly yn isel ei bris, fel ag i fod yn hawdd o fewn cyraedd pawb a'i myn.
Rhoddais nodyn i mewn ar amser a bywyd y gwahanol ysgrifennwyr,—i ddangos yr adeg y buont byw, a'r helynt a'u cynhyrfodd i gyfansoddi. Os