Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caiff y gyfrol fechan yma dderbyniad gweddol gynnes, bwriadaf ddwyn un arall allan yn cynnwys pigion o ryddiaith ddiweddar,—o lythyrau Goronwy Owen i lawr i ganol y ganrif hon.

Cefais aml gyngor caredig gan gyfeillion lu,caredigion addysg Cymru. Ond nid enwaf ond tri, —fy nghyd-athro Edward Anwyl a fy nghyfeillion. R. E. Jones a J. H. Davies—a roddasant i mi bob cymorth trwy adael i mi chwilio allan am drysorau eu hen lyfrau Cymraeg.

EDWARD EDWARDS.

TANYBRYN,
ABERYSTWYTH.