Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y MABINOGION.

Y cwn a welodd Pwyll.Yna edrychodd Pwyll ar liw y cŵn, heb feddwl edrych ar y carw. Ac ar a welsai efe o helgwn y byd, ni welsai gwn unlliw a hwynt. Sef y lliw oedd arnynt oedd claerwyn llathraidd, a'u clustiau yn gochion; ac fel y disgleiriai gwynder y cŵn y disgleiriai cochter eu clustiau. Ac ar hynny at y cŵn y daeth ef. A gyrru ymaith y cwn a laddasai y carw, a llithio ei gwn ei hunan ar ol y carw. Ac fel yr oedd yn denu y cŵn, efe a welai farchog yn dyfod ar ol y cŵn ar farch erchlas mawr, a chorn canu am ei wddf a gwisg o frethyn llwyd am dano yn wisg hela.



Y Gaer a'r
Cawg
Pa hyd bynnag y buant ar y ffordd, hwy a ddaethant i Ddyfed a chyrchasant i Arberth. Cynneu tân a wnaethant, a dechreu bwyta a hela a threulio mis felly, a chynullasant eu cŵn atynt gan aros felly yno flwyddyn. A bore gwaith, codi a wnaeth Pryderi a Manawyddan i hela, a pharotoi eu cŵn a myned oddiwrth y llys i hela. Sef a wnaeth rhai o'r cwn, cerdded o'u blaen a myned i berth fechan a oedd ger llaw. A chydag yr aethant i'r berth, ciliasant yn ol