Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyflym gan godi eu gwrychyn a dychwelyd at y gwyr.

"Nesawn" ebe Pryderi "at y berth i edrych beth sydd ynddi." A nesau parth a'r berth a wnaethant, a phan nesasant, dyma faedd coed claerwyn yn codi o'r berth. Sef a wnaeth y cŵn rhuthro arno trwy hyssio o'r gwyr. Hyn a wnaeth yntau, sef gadael y berth a chilio encyd oddiwrthynt, ac hyd na byddai y gwyr yn agos iddo, cyfarthai ar y cŵn heb gilio rhagddynt, a phan agoshai y gwyr y ciliai eilwaith ac y torai ar ei gyfarth. Ac ar ol y baedd y cerddasant hyd oni welent gaer fawr aruchel, a gwaith newydd arni, mewn lle na welsent na maen na gwaith erioed. A'r baedd a gyrchodd yn fuan i'r gaer a'r cŵn ar ei ol

Ac wedi myned y cŵn a'r baedd i'r gaer, rhyfeddu a wnaethant weled y gaer yn y lle ni welsent gaer erioed cyn hynny. Ac o ben yr orsedd. edrych a wnaethant ac ymwrando ar y cŵn. Pa hyd bynnag y byddent felly, ni chlywent un o'r cwn na dim oddiwrthynt.

"Arglwydd " ebe Pryderi "mi a af i'r gaer i geisio hanes y cŵn."

"Dioer" ebe yntau "nid da dy gyngor fyned i'r gaer hon nas gwelaist erioed, ac os gwnei fy nghyngor i, nid ei di iddi,—a'r neb a ddodes hûd ar y wlad a beris fod y gaer yma."

"Yn wir" ebe Pryderi "ni fynnaf fi golli fy