nghŵn." A pha gyngor bynnag a gai efe gan Fanawyddan i'r gaer y cyrchodd. Pan ddaeth i'r gaer, na dyn nac anifel na'r baedd na'r cŵn na thy nac annedd nis gwelai. Efe a welai ar ganol llawr y gaer, ffynnon a gwaith o faen marmor o'i chylch. Ac ar lan y ffynnon, cawg aur uwch ben llech o faen marmor, a chadwynau yn ymestyn i'r awyr, at phen draw nis gwelai iddynt. Ac ymlawenhau a wnaeth yntau wrth deced yr aur a daed gwaith y cawg. A dyfod a wnaeth at y cawg a gafael ynddo. Ac fel yr ymafaelodd yn y cawg, glynodd ei ddwylaw. wrth y cawg a'i draed wrth y llech yr oedd y cawg yn sefyll arni collodd ei lafar fel nas gallai ddweyd un gair, a sefyll a wnaeth felly.
Y forwyn deg a'r amherawdwr A hwy a welsant y forwyn yn eistedd mewn cadair o ruddaur. A gostwng ar ben eu gliniau a wnaeth y cenhadau.
"Ha, wyrda," ebe y forwyn, "ansawdd gwyr dyledog a welaf arnoch ac arwydd cenhadau. Pa watwar a wnewch chwi am danaf fi ?"
"Ni wnawn, Arglwyddes, un gwatwar am danat. Namyn Amherawdwr Rhufain a'th welodd drwy ei hûn. Hoedl ac einioes nid oes iddo am danat. Dy ddewis, arglwyddes, a geffy genym ni,—ai dyfod gyd a ni i'th wneuthur yn amherodres yn Rhufain ai dyfod yr amherawdwr i'th gymryd yn wraig iddo."