Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ha, wyrda," ebe y forwyn, "amheu yr hyn a ddywedwch chwi nis gwnaf fi, na'i gredu hefyd yn ormod. Namyn os myfi a går yr amherawdwr, deued hyd yma i'm nhôl."

A rhwng dydd a nos y cerddodd y cenhadau yn ol, ac fel y diffygiai eu meirch y prynent rai newydd. Pan ddaethant i Rufain, cyfarch gwell i'r amherawdwr a wnaethant ac ebr hwynt

"Ni a fyddwn gyfarwydd iti, arglwydd, ar for ac ar dir, hyd lle y mae y wraig a geri fwyaf, a ni a wyddom ei henw a'i thras a'i bonedd."

Ac yn ddiymdroi yr aeth yr amherawdwr, a'r gwyr yn gyfarwydd iddo, ar ei lwydd. Parth ag Ynys Prydain y daethant dros for a gweilgi..

a daeth rhagddo hyd yn Arfon, ac adnabu yr amberawdwr y wlad fel y gwelodd hi. A phan y gwelodd gaer Aber Seint "Wel di accw" ebr ef "y gaer y gwelais i y wraig fwyaf a garaf ynddi." A daeth i'r gaer ac i'r neuadd.

A'r forwyn a welodd trwy ei hûn yn eistedd mewn cadair o aur, ac ebr efe

Amherodres Rhufain, henffych well."



Olwen. Dyfod a wnaeth hithau, a gwisg o sidan flamgoch am dani, a thorch ruddaur am wddf y forwyn a pherlau gwerthfawr ynddi a rhudd emau. Melynach oedd ei phen na blodau y banadl, gwynnach oedd ei chnawd nag ewyn y don. Na golwg hebog, na golwg gwalch nid oedd decach na'i