golwg hi. Gwynnach oedd ei dwyfron na bron alarch gwyn, cochach oedd ei dwy rudd na'r ffuon cochaf. Y sawl a'i gwelai, cyflawn fyddai o'i serch. Pedair o feillion gwynion a fyddai ar ei hol pa ffordd bynnag y delai, ac am hynny y gelwid hi Olwen.
Owain a'r sarff a'r llew a Lunet. Ac ymaith yr aeth Owain, a'i wahodd a wnaeth yr iarles, ef a'i holl nifer. Ac ni fynnai Owain namyn cerdded rhagddo i eithafoedd byd a diffeithwch. Ac fel yr oedd yn cerdded, efe a glywail ysgrech uchel yn y coed,—a'r ail a'r drydedd,—a dyfod yno a wnaeth Owain. A phan ddaeth. yno, efe a welai glogfryn mawr yng nghanol y coed a chareg lwyd yn ystlys y bryn. A hollt oedd yn y garreg, a sarff yn yr hollt, a llew du du a oedd yn ymyl y gareg. A phan geisiai y llew fyned oddiyno, y neidiai y sarff iddo i'w frathu. Ac Owain a dynnodd allan ei gleddyf a nesaodd at y gareg. Ac fel yr oedd y sarff yn dyfod o'r gareg, ei tharo a wnaeth Owain a chleddyf oni fai yn ddau hanner, a sychu ei gleddyf a dyfod i'r ffordd fel cynt.
A gwelai y llew yn ei ganlyn, ac yn chwarei o'i amgylch fel milgi a fagasai ef ei hun, a cherdded a wnaethant ar hyd y dydd hyd y nos.
A phan fu amser gan Owain orffwys, disgyn oddiar ei farch a wnaeth, a gollwng ei farch mewn dol goediog wastad, a chynneu tân a wnaeth. A