phan oedd barod y tân gan Owain yr oedd gan y llew ddigon o gynnyd hyd ymhen teirnos. A diflannu a wnaeth y llew oddiwrtho. Ac yn fuan y daeth y llew ato a iwrch mawr teleidiw ganddo. A'i fwrw ger bron Owain, a myned am y tan ag ef, a chymerodd Owain yr iwrch ac a'i blingodd, a dododd olwython. ar farau haiarn o gylch y tån, a rhoddodd yr iwrch, oddigerth hynny, i'r llew i'w ysu.
Ac fel yr oedd Owain felly, efe a glywai waedd uchel—a'r ail a'r drydedd yn agos iddo. A gofyn a wnaeth Owain "Ai dyn yn perthyn i'r byd hwn?" "Ie," ebe'r dyn. "Pwy wyt tithau?" ebe Owain. "Dioer," ebe hi, "Lunet wyf fi, llawforwyn Iarles y Ffynnon." "Beth a wnei di yma ?" ebe Owain. "Fy ngharcharu," ebe hi, "y maent, o achos marchog a ddaeth o Lys Arthur i fynnu yr Iarles yn briod."
A phan fu boeth y golwython, eu rhannu a wnaeth Owain yn ddau hanner rhyngtho a'r forwyn, a bwyta a wnaethant. Ac wedi hynny ymddiddan a wnaethant onid oedd ddydd dranoeth.
Yr hyn a
welodd Peredur. Yna y cyfarfu ef yn ar ben crug y wraig decafa welsai erioed. "Mi a wn dy hynt," ebe hi, "myned yr wyt i ymladd a'r addanc, ac ef a'th ladd,—ac nid o'i ddewredd namyn o'i ystryw. Ogof y sydd iddo, a philer o faen sydd ar ddrws yr ogof. Ac efe a wêl bawb ar a ddel i mewn ac nis gwêl neb ef.