Ac a llech-waew wenwynig o gysgod y piler y lladd efe bawb. A phe rhoddit ti dy grêdi mi i fy ngharu yn fwyaf gwraig, mi a roddwn it' faen fel y gwelit ef pan elit i mewn, ac ni welei efe dydi." "Rhoddaf fy nghrêd i ti," ebe Peredur. "Er pan y'th welais gyntaf mi a'th gerais." Ac yna y diflannodd y forwyn wedi rhoddi y maen yn llaw Peredur. Ac yntau a ddaeth rhagddo tuag at ddyffryn afon, a gororau y dyffryn oedd goed, ac o bob tu i'r afon weirgloddiau gwastad. Ac ar un tu i'r afon y gwelai lu o ddefaid gwynion, ac o'r tu arall lu o ddefaid duon. Ac fel y brefai un o'r defaid gwynion y deuai un o'r defaid duon drosodd, ac y byddai yn wen, ac fel y brefai un o'r defaid duon y deuai un o'r defaid gwynion ac y byddai yn ddu.
A phren hir a welei ar lan yr afon. A'r naill hanner o hono a oedd iddo yn llosgi o'i wraidd hyd ei flaen, a'r hanner arall a dail ir arno. Ac uwch law hynny y gwelai fachgen yn eistedd ar ben bryn, a dau filgi brithion bronwynion yn gorwedd gerllaw iddo, a'r bachgen mwyaf cydnerth oedd a welsei Peredur erioed.