Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GRUFFUDD ROBERTS.

Ychydig o hanes Gramadegwr boreuaf Cymru sydd ar gael. Cyhoeddwyd ei brif waith,

"DOSPARTH BYRR AR Y
rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg
lle cair llawer o bynciau an-
hepcor i un a chwen-
nychai na doedyd
y gymraeg yn ddilediaith, nai
scrifennu'n iawn,"

yn 1567, ym Milan: fel y gellid tybied ei fod ym mlodau ei oes раn ddechreuodd y Frenhines Elisabeth deyrnasu. Yr oedd felly yn gyd-oeswr a William Salsbri, a megis mai Protestant poeth oedd cyfieithydd y Beibl, felly Pabydd llwyr oedd awdwr y Gramadeg. Feallai fod y ddau yn adnabod eu gilydd, canys mae'n sicr mai brodor o Ogledd Cymru oedd Gr. Roberts. Y mae dullwedd ei iaith a'r mynych gyfeiriadau at rannau o'r Gogledd yn profi hynny. Dywed mewn un man am ei hiraeth am "lan y Ddyfrdwy" a "llawr Dyphryn Clwyd." Mewn lle arall, pan y mae ef a'i ddisgybl yn ymddiddan am scrifennu gramadeg, dywed ei ddisgybl (mae'n debyg Rhosier Smyth, o Lan Elwy), Mi a'm clown fy hun yn cynhessu oddimewn a'm calon yn cyrchneittio yn fynghorph o wir lawenydd wrth wrando ar draethu Bruttaniaeth yn 'r Eidal megis pe buaswn ynghanol Gwynedd." Fe scrifennodd Gruffudd Roberts amryw lyfrau eraill —yr oll at wasanaeth pabyddion Cymru,—pan yr oedd yn gyffeswr i Cardinal Borromeo, ym Milan.

Yr wyf yn cyhoeddi rhannau helaeth o'i "Ddosparth Byrr" oherwydd prydferthwch ei arddull ac ystwythdar ei iaith. Yr oedd ei gariad at Gymru a'i hanes a'i hachos yn angerddol, a gwnaeth