Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wasanaeth dirfawr i'r Gymraeg trwy ei serifennu mewn dull mor ddeniadol ac eglur. Canmolir ei arddull a'i iaith yn uchel gan Morus Kyffin, yr hwn a ddywed ei fod "yn ddarn o waith dyscedig ynghelfyddyd gramadec, mor buraidd, mor lathraidd ag mor odidawg ei ymadroddiad na ellir damuno dim perffeithiach yn hyny o beth."

Cyhoeddwyd, yn 1883, adargraff o'r hen Ramadeg gan Henri Gaidoz a D. Silvan Evans. Yn y darnau hyn newidiais ei sillebiaeth er mwyn ei wneud yn haws i'w ddarllen, oherwydd yn y gwreiddiol ceir I, d, ac u am ll, dd, ac w, ac wrth ben a yn fynych mae hirnod pan y saif am un. Cywirais ambell i air hefyd lle yr oedd cam-argraff amlwg, canys cwyna Gruffudd Roberts ei hun nad oedd yr Italiaid ym Milan yn deall eu gwaith na iaith ei lyfr.