Cymraeg, ie, ymysg penaduriaid y deyrnas, mal y clowais fagod o wyr yn doedyd, tan fawr ddiolch i Dduw, weled i pennaeth mewn gradd, a lle cyn uched, yn dangos dirfawr serch of wlad naturiol ar i'mddygiad ai'madrodd. A bid diau gennych (farglwydd. urddassol) fod calon pob gwir Gymro yn crychnneittio yn i gorph o wir lawenydd pan glowo wr o'ch anrhydedd chwi yn doedyd i iaith: canys nid oes dim i ennill calonnau adeiliaid yn gystal ag ymgeleddu i hiaith a siarad wrthyn bob un yn i iaith naturiol. Hynny a wnaeth fod Mithridates mor enwog,—gwr oedd a dwy deyrnas arhugain tano,—ag yntau yn medru ymddiddan a phawb yn i dafod ihun. Hynny a wnaeth i Garolus y bumed fod cimaint i allu am nad oedd raid iddo wrth un ieithydd i'mddiddan ai holl adeiliaid er i bod o amrafael genedloedd. Hyn a wnaeth ich anrhydedd chwithau fod cimaint i gariad ynghymru am ych bod mor gariadus i'r Gymraeg ag yn i medru mor hyfedr. Tu ag at am bwyll i ddyfeisio phyrdd i'm gossod i rhagof, a grym i wneuthur y peth a welech yn dda, mae pawb yn gwybod nad oes moi diphig ynoch; gan fod yn eglur, nid o fewn Lloegr yn unig, eithr ymhob mann y mae son am dani, nad oes dim a phrwyth ynddo yn perthynu at stad y deyrnas mewn heddwch a rhyfel ond a luniwyd trwy'ch cyngor, ag a wnaethbwyd trwy'ch grym a'ch cymorth a'ch anorphwys lafur. Am hynny y mae gennyfobaith yrowron, y byddwch
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/31
Prawfddarllenwyd y dudalen hon