ymy yn arglwydd da i'mdiphin rhag argowedd a drwg, ag i'm helpu wrth geisio ymossod allan i ddangos f'wyneb ymyse yr ieithoedd eraill nid ydynt well i braint no minnau: ond cael o honynt imgeledd ai mowrhau gan bennaduriaid a boneddigion i gwlad, ag wrth hynny gadel llawer arnafi a fum cyd heb nag ymgeledd na mowrhaad. Etto pe cawn ynawr ddechrau'mdrwsio tan ych aden chwi, a gweled o bawb fod wyneb yn pennaeth tu ag attaf, e fyddai bob Cymro barod im studio, im cyfoethogi agi'm gwneuthur yn hylwybr ac yn berffaith. Yrhwnn beth os cenhiada ych daioni chwi ymy, mi a obeithiaf, cyn nemawr o ennyd y gwelir o'mgwaithi ymysg y cymru lawer pwnc o ddysg a gwybodaeth ni ellais 'moi ddangos iddynt hyd yn hynn. Canys wrth y cydnabod a gefais ag ieithoedd eraill, yn hwyr yrowron mi allaf pan fynnwyf gael genthynt bob peth a berthyn at gampau a chynneddfau gwyr rhinweddol, gynghordioledd gramadeg, flodeuau retorigyddiaeth, ystriw dialectigyddiaeth, cowreinrhwydd meddygon, pwylledd dinasswyr, gwybodaeth philosophyddion, gorchestion milwyr, duwioldeb theologyddiaeth i ddyscu, helpu, diddanu a pherpheiddio gwyr fyngwlad ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd, a chymradwy gar bron Duw. Yn hynn o orchwyl, os ych anrhydedd chwi a fydd awdur, nodded a chynhorthwy ymy, chwi a gewch yn ddiogel glod tra barha iaith y Bruttaniaid, a gwasanaeth ufudd
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/32
Prawfddarllenwyd y dudalen hon