Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

didwyll genthynt i chwi a'ch etifeddion yn y byd yma, a thal didranc gan Dduw yn y byd sy'n dowad, yrhwn a danfono iwch rwydddeb, a chynnyrch ymhob llawenydd a daioni wrth fodd ach caro

Ych phyddlonaf law forwyn

yr iaith gymraeg




IAITH GAMBR YN
annerch yr hygar ddarlleydd.

Anerch
y Gymraeg
Aristoteles, gwr o ragoriaeth mewn dysc a gwybodaeth a ddowad am bob celfyddyd mae bychan ag anrhefnus fydd it dechreuad; ac yna bob ychydig tyfy ag ymdacclu a wna, nid ar unwaith, ond o amser i amser trwy fod eraill yn gweled ag yn bwrw at y dechreuad ryw beth nis canfu na'r cyntaf na'r ail. Er bod y dechrau fynychaf yn llai no'r ddarn a roesswyd wrtho; etto mae'n galettach ag yn fwy clod ddychmygu ychydig o newydd nog yw trefnu hyny ai chwanegu yn helaethwych. Am hynny na fid diystr na diflas gennyt fyngweled i yn ymddangos mor ddisas ac anhylwybr, canys honn yw'r awr gyntaf yr amcanwyd fynwyn i lwybr celfyddyd. Yr ydoedd y beirdd rhyd Cymru yn ceisio fynghadw rhag colli ne gymyscu a'r Saesnaeg. Ond nid oedd genthynt ffordd yn y