Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byd, nag y ddangos yn fyrr ag yn hyffordd yr odidowrwydd sydd ynof rhagor nog mewn llawer o ieithoedd, na chwaith i fanegi rhessom am fagod o ddirgelion a gaid i gweled, ond chwilio yn fanwl amdanynt, mal y mae gramadegrwyr da yn gwneuthur, pawb ini iaith ihun. O herwydd hynn, gan nad wyf ond dechrau etto, rhaid itti (ddarlleydd howddgar) pan welych ar hynn o gais ddim a allesid i ddoedyd wedi adel allan ne ryw beth wedi gyfleu allan oi ddyledus le, ne ddiphig mewn rhyw phordd arall, beidio a gwradwyddo'r neb, o ewyllys da ymy, a'mcanodd fynwyn i fraint celfyddyd. Eithr os perpheiddid di y peth a ddechreuawdd ef, heb ddoedyd iddo mor absen nes dwyn hynny i benn, mae ytty fawr ddiolch gennyfi a chantho yntau; canys nid ydyw ef yn tybied fod hynn yn agos i'r perffeiddrwydd y gweddai iddo fod, eithr i geisio denu rhai ai medrai yn well ef a wnaeth orau gallodd yn y drafferth ar blinder y mae ynddo heb gael ennyd im taclusi mal y damunai: a heb genfigen wrth neb a wnelo yn well nog ef, ond diolch yn gynt iddo am ddwyn i ben y peth a wnaethai ef ihun pes gallasai. Na ryfedda chwaith weled cimaint o fiau wrth brintio, canys yr ydoedd y dynion oedd yn gweithio heb fod nag yn gyfarwydd yn yr iaith nag уп ddisceulus ar i gorchwyl, nag yn rhowing of trin ag i gweirio'r pethau a fethai genthynt. Heb law hynn, yr oedd arnynt eisie llythrennau ag amryw nodau afuasai raid wrthynt i brintio yn gyflawn bob