Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PRYLOG NE'R RHA-
gddodiad yn cynnwys yr achos a fu
i son am y Gymraeg ag i'mrys-
symu ynghylch y gra-
madeg.

Gr. Mae yn esmwythach arnom o beth, ag yn lai'r boethfa, er pan ddoethom i'r winllan hon nog ydoedd tra fuom yn ty gartref. Canys yno'roedd gwres anosparthus i'n poeni a myllni (o eisieu awyr a gwynt) ddygon i fygu dynnion; Ond yma, mae cangau a dail y gwinwydd i'n cadw rhag pelydr yr haul, a'r gwynt arafaidd o'r gogledd yn oeri, ag yn difyllu y rhodfa a'r eisteddfa hon, fal na bo cyn flined. arnom ganol dydd, ag a fu y dyddiau a aeth heibio.

Mo. Er bod yn deg y fangre lle'r ydym, ag yn hyfryd gweled y dail gwrddleision yn gyscod rhag y tes, ag yn ddigrif clowed yr awel hon or gogleuwynt yn chwythu tan frig y gwynwydd i'n llawenychu yn y gwres anrhysymol hwn sydd drwm wrth bawb a gafodd i geni ai meithrin mewn gwlad cyn oered ag yw tir Cymru: etto mae arnaf hiraeth am lawer o bethau a gaid ynghymru i fwrw'r amser heibio yn ddifyr ag yn llawen wrth ochel y tés hirddydd haf. Canys yno, er poethed fai'r dymyr, ef a gaid esmwythdra a diddanwch i bob bath ar ddyn. Os byddai un yn chwennychu digrifwch e gai buror ai delyn i ganu mwyn bynciau, a datceiniaid peroslau i ganu gida thant, hwn ai fynnychwi ai mawl