Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i rinwedd ynta gogan i ddrwgcampau. Os mynnych chwithau glowed arfer y wlad yn amser ein teidiau ni, chwi a gaech henafgwyr briglwydion a ddangossai iwch ar dafod laferydd bob gweithred hynod a gwiwglod a wneithid trwy dir Cymru er ys talm o amser. Ond os myfyrio a ddamunych ne ddarllain ar ych pen ych hun, chwi a gaech ddewis lle cymwys i hynny, er maint fyddai boethni'r tes,—naill ai mewn tai gleision hafaidd ne gar llaw'r dyfr rhedegog mewn glyn ag irgoed, ne mewn dyphryn llysseuawg, ne ar ael doldir meillionawg ne mewn cadlas o fedw ne o ynn planedig, ne ar fynydd amlwg awelog, ne mewn rhyw gyfle arall lle ni byddai na blinder na lludded wrth wres yr hinon. Ond ynghylch y dref hon nid oes dim tebig; canys os i ogo y cyrchwch ne i gilfach heb haul yn towynnu un amser arni, chwi a gewch oerfel angheuawl, os yntau mewn lle amlwg y trigwch y brydni a dawdd frain ac adar; os aros a wnewch yn ty chwi a fygwch gen fyllni, a'r gwinIlannau o'r fath yma, er i bod yn deg yr olwg arnyn ag yn hyfrydach aros ynddyn nog mewn mannoedd eraill o'n hamgylch, etto ni chynhessa calon Cymro wrthynt megis y gwnai wrth lan Dyfrdwy ne lawr Dyphryn Clwyd; ne wrth aml i leoedd a fedrwn i henwi o faenol Dewi i Gaergybi ym Mon. A phe bai'r lle o hono ihun yn gystal ar fan ore ynghymru, eto e lawenychai fynghaloni yno yn gynt wrth glowed y gog yn canu nog a wnai yma wrth glowed