Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perbynciau'r eos ne fwynlais bronfraith ne lathreiddgan mwyalch ne pe gwnaid musig cysson cyfangan o gydlais paradwysaidd holl adar y byd yn yr unlle.

Gr. Ych dirfawr gariad i'r wlad sydd yn peri hynny gwir felly a ddowad y phylosophydd na bydd uniawn barn lle bo cariad ne gas yn rheoli. Canys digassedd a wyl fai lle ni bo, a chariad weithiau a farna'r bai yn rhinwedd. Wrth hynny, tra for cimaint ych serch i Gymru anodd iwch fod yn ustus cyfiawn rhyngthi ag estronwlad yn y byd. Felly am fod cyn hophed gennych y wlad ar bobl, ni welwn i ddim well i ddifyrru'r amser na siarad am bethau cymreig, ag edrych beth a wnai les iddynt a fyddai ar ych llaw chwi i ddwyn i ben.

Mo. Gwir iawn a ddoeduch, am hynny moesswch weled a fyddai bossibl i ni wneuthur mal y gwnaeth llawer o'r Groegwyr a'r Lladinwyr gynt pan yrrid nhwy ar darfysc i ryw gilfach neulltuawli dario: yno'r scrifonnent hwy riw beth i hyphorddi gwyr it gwlad mewn rhinwedd dysc ne bethau eraill a fyddai lles, urddas a gogoniant iddyn, fal y gwnaeth Tullius i lyfrau o philosophyddiaeth gan mwyaf i gyd.

Gr. Nid gwiw ini edrych am wneuthur yn debig i'r gwyr o'r amser a'r gwledydd hynny gan nad oes yn y to sydd heddiw un synwyr abl i'm gystadlu ar athrylith oedd genthynt hwy. . . . A ninnau sydd heb yrun o'rhain gennym, na chwaith (am yn bod суп belled oddi cartref) fodd i graphu ar yr iaith