Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn galed a gonest gyda'i gyfieithiad a'i bregethu, ond yn 1585 fe'i gwysiwyd o flaen Archesgob Whitgift i ateb amryw gyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. Nid yn unig fe'i profwyd yn ddieuog, ond daeth yr Archesgob yn un o'i brif gefnogwyr i ddwyn allan yr oll o'r Beibl, canys rhyfeddodd at ei ddysceidiaeth ac at ei onestrwydd diwyrni a'i gariad mawr at ei genedl oedd eto heb gael yr Yscrythur yn ei hiaith. Yn ei lythyr cyflwyniad i'r Frenhines Elisabeth, dywed Morgan i Whitgift fod yn un o'i brif noddwyr, —ac enwa hefyd Wm. Hughes, Esgob Llanelwy, Hugh Bellot, Esgob Bangor, Gabriel Goodman, Deon Westminster, Dr. Powell, yr Archddiacon Edmund Prys, a Richard Fychan, Esgob Llundain.

Gwaith cariad oedd cyfieithu'r Beibl i Wiliam Morgan,—eto cafodd ychydig o dal mewn swyddi Eglwysig am ei fawr lafur, canys yn 1595 cafodd Esgobaeth Llandaf, ac yn 1601 fe'i hetholwyd yn Esgob Llanelwy, lle y bu farw yn 1604, a lle codwyd colofn gôf ar ei fedd yn 1888.


Mae'n hawdd yscrifennu llawer ar fywyd llawn gwaith a llafur a llwyddiant yr Esgob Morgan, ond mae yn barod amryw gofiannau iddo, gan Charles Ashton a chan y Parch. Wiliam Hughes, Llanuwchllyn, sy'n rhoddi ei hanes yn llawn.

Y mae ei Gymraeg yn cael ei gydnabod gan bawb yn Gymraeg safonol, yn ystwyth, yn feistrolgar, a byw. Creodd ymddangosiad ei Gymraeg ef ddull newydd a gwell o yscrifennu, canys y mae y gwahaniaeth rhyngddo ef a'r rhan fwyaf o'r llyfrau a brintiwyd o'i flaen yn ddirfawr.

Copiais y ddwy bennod o lob ac Esay a'r tair Psalm yma o gopi o'r Beibl sy'n llyfrgell Coleg Aberystwyth, a maent fel yr yscrifennodd Wiliam Morgan hwynt. Pigais y rhannau lled wybyddus yma er mwyn i'r rhai a'u darllenno gael eu taro gan y gwahaniaeth rhyngddynt a Chymraeg presennol ein Beibl. Y mae llyfr Iob wedi ei ddwyn allan eisoes gan Mr. Gwenogfryn Evans, a gobeithio yn fawr y caiff y cyfleustra yn fuan i gyflawni ei addewid o ddyfod a rhannau eraill allan yn ei ddull campus ei hun.