Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PSALM XXXIII.
Psalm Dafydd.

1. EIDDOBoreuol weddi yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder y byd, ac a bresswylia ynddo.

2. Canys efe a'i seiliodd ar y môroedd: ac Deut. 20. 14.ai paratodd ar yr afonydd.

3. Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd, a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef? Iob 28.12, I Cor. 10.28

4. Y diniwed [ei] ddwylo, a'r glân [ei] galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo [ei gymmydog].

5. Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6. Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, [sef] y rhai a geisiant dy wyneb di ô Iacob. Selah.

7. O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8. Pwy yw yr brenin gogoneddus hwnnw? уг Arglwydd nerthol a chadarn: yr Arglwydd. cadarn mewn rhyfel.

9. O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10. Pwy yw'r brenin gogoneddus hwnnw? Arglwydd y lluoedd, efe [yw] brenin y gogoniant. Selah.