Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

11. Canys haul a tharian yw'r Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd râd a gogoniant: ni attal efe ddaioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12. O Arglwydd y lluoedd gwynfyd y dyn a ymddiriedo ynot.



ESAY.
PEN. XL.

Efangylaidd gyssur i'r Eglwys. 3 Galwedigaeth Ioan fedyddiwr. 12 Gallu Duw i gyflawni y cyssur uchod. 18 Ofered yw pob delw. 22 Duw'n unic sydd Ollalluog.

1. CYssurwch, cyssurwch fy mhobl, medd eich Duw.

2. Dywedwch wrth fodd Ierusalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth: canys maddeuwyd ei hanwiredd, oherwydd derbyniodd o law'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau.

3. Canys llêf sydd yn llefain yn yr anialwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, inionwch lwybr ein Duw ni yn y diffaethwch.

4. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a brynn a ostyngir, y gwŷr a fydd yn iniawn, a'r anwastad yn wastadedd.