Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. LV.

Duw yn annog y bobl i ffydd, ac i edifeirach trwy ei efangylaidd addewidion.

1. O Deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched. arno, ie yr hwn nid [oes] arian ganddo, deuwch prynwch, a bwyttewch, ie deuwch prynwch. win, a llaeth heb arian, ac heb werth.

2. Pa ham y telwch arian am [yr hyn] nid [ydyw] fara? a'ch llafur am [yr hyn] nid [yw] yn ddigonoldeb? gan wrando gwrandewch arnafi, a bwyttewch yr hyn sydd dda: ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder.

3. Gogwyddwch eich clustiau a deuwch attaf, gwrandewch fel y byddo byw eich enaid, ac mi a wnaf gyfammod tragywyddawl â chwi [sef] siccr drugareddau Dafydd.

4. Wele rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn Psalm 132.ii. flaenor, ac yn athro i'r bobloedd.

5. Wele cenedl nid adweini a elwi, a chenhedlaeth nid adwaenant ti a redant attat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac o herwydd Sanct Israel: canys efe a'th ogoneddodd.

6. Ceisiwch yr Arglwydd tra caffer ef: gelwch arno tra fyddo yn agos.

7. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei amcannion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw