Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni o herwydd y mae efe yn barod iawn i faddeu.

8. Canys nid fy amcannion i [yw] eich amcannion chwi ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i medd yr Arglwydd.

9. Canys [fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaiar, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm amcannion i na'ch amcannion chwi.

10. Canys fel y descyn y glaw, a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dwfrhâ y ddaiar, ac a wna iddi darddu a thyfu fel y rhoddo hâd i'r hau-wr, a bara i'r bwytta-wr.

11. Felly y bydd fy ngair yr hwn a ddaw o'm genau ni ddychwel attaf yn wag: eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda lle'r anfonwyf ef.

12. Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd i'ch arweinir [i mewn,] y mynyddoedd a'r brynnau a floeddiant ganu o'ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.

13. Yn lle drain y cyfyd ffynnid-wŷdd, yn lle danadl y cyfyd myrt-wŷdd, a [hyn] fydd i'r Arglwydd yn enw ac yn arwydd tragywyddol yr hwn ni thorrir.