Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SION DAFYDD RHYS.

MAE hanes y gwr dyscedig hwn, o'i febyd i'w fedd, yn rhamant ddyddorol. Garddwr oedd ei dad, Dafydd Rhys, a ddaeth i Wynedd o Forgannwg gyda Syr William Griffith pan briododd ferch Thomas Stradling, o Gastell St. Donat's. Dafydd, ynteu, yn ei dro a briododd wasanaethyddes i'w feistr, ac un o St. Donat's oedd hi. Ganwyd iddynt un mab,—Sion: a buan wedi ei eni bu farw ei dad a hefyd Syr William. Gan nad oedd i'w fam unrhyw berthynas yn y Gogledd, penderfynodd droi yn ol i'r De, a chan mai ifangc a gwan oedd y bachgen bach, gorfod iddi el gario ar ei chefn agos yr holl ffordd i Forgannwg. Profodd hyn yn ormod o waith iddi, a bu farw yn union wedi cyrhaedd ei hen gartref, gan adael ei phlentyn diymgeledd yn unig ag amddifad.

Ond gwenodd rhagluniaeth arno, gan i Syr Edward Stradling ei gymeryd i'r Castell, a chafodd yr un meistri ofalu am ei ddysgeidiaeth ag a ddysgai fab y boneddwr caredig. Anfonwyd y ddau i'r Eidal, i Brif Athrofa Sienna, lle y cawsant bob cyfleustra i ymberffeithio yn yr Italaeg a'r Lladin. Pan ddaethant yn ol, gwnawd Sion Dafydd Rhys yn athro teulu Stradling: a phan gofir iddo achub bywyd yr etifedd rhag boddi yn y môr pan oedd pawb arall wedi methu, hawdd yw canfod paham y bu i'r Stradlingiaid estyn pob cymorth i Sion ar hyd ei oes. Aeth i'r Eidal drachefn, i Sienna, a gwnawd Sion yn Ddoctor Meddyginiaeth gan Gyngor y Brifysgol. Erbyn hyn, yr oedd wedi penderfynu byw yn fynach, ond gan fod yr holl fynachlogydd wedi eu dinystrio yn amser Harri'r Wythfed, prynodd Sion Dafydd Rhys etifeddiaeth fechan iddo ei hun a elwir y Clyn Hir, ar eithaf Cwm Llwch, o dan gysgod Bannau Brycheiniog, lle y bu farw yn hen wr aml ei ddyddiau yn 1609.

Ysgrifennodd amryw lyfrau yn ei ddydd,—un ar "Reolau i