Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddeall уг Iaith Lladin" yn Italaeg a argraffwyd yn Venis,—un ar yr iaith Italaeg, yn Lladin a gyhoeddwyd ym Mhadua, ond ei lyfr mawr a orffennodd yn nhawelwch y "Clan Hir" ydyw ei Ramadeg Cymraeg. Y mae hwn yn llyfr mawr dyscedig, yn Lladin gan mwyaf, ond gydag Annerch miniog Cymraeg. Rhoddaf yma ddarnau o'r Annerch, ac er mwyn ei wneyd yn lled hawdd i'w ddarllen rhaid oedd newid tipyn ar ddull yr hen ddysgawdwr o lythyrennu. Oherwydd mae ganddo ei ddull ei hun o sillebu, canys defnyddia am f, dd, ng, ngh, l, y llythyren wreiddiol ac h, fel hyn, bh, dh, gh, ghh, lh, yr hyn a rydd olwg ddifrifol ar ei lawysgrif. Ond er hyn ac ychydig newid arall, cedwir ei arddull a grym ei Gymraeg yn gyflawn. Mae teitl ei Ramadeg yn Lladin, ond o'i gyfieithu dyna yw,—"Elfennau ac Egwyddorion y Gymraeg Brydeinig, wedi eu traethu yn ofalus, ac, hyd y gellid, yn fanwl a llawn, &c., 1592" Amlwg yw mai i'r bobl ddyscedig y bwriadai Rhys ysgrifennu, canys y mae ei fater a'i ddull o drin ei bwngc ymhell uwchlaw cyraedd amgyffred y werin.