Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"At Bendefigion, a' Phrydyddion, a Chymreigydd-
ion, ac at eraill o m' Anwylieid o Genedl
Gymry, ac eraill amgen no'r hain, Annerch a
Llwyddiant."




Nyd oes nemor o iaith (hyd y gwn i) ynn Europa a'i hynysoedd na's cafas ei hymgeleddu a'i choledd gan ei Ieithyddion a'i Gwladwyr ihun, o amser i gilydd; onid ein hiaith ni y Cymry. Yr honn ynawr yn hwyr, ac o braidd, a ddechreuawdd gaffael pêth gwrtaith gan 'wyrda dyscedig o'n hamser ni; a hynny yn enwedic o rann cymrec-hâu corph yr yscrythur lân. Canys o's golygwch arr genhedloedd a' phobloedd eraill megys y Groecieit, a'r Lladinieit; chwi a 'ellwch ganfod nadd oes nebryw wybodaeth na chelfyddyd dann yr haul o'r a ddichon bôd mywn dyn, na's caffer ei gweled yn amlwc ynn ei hiaith a'e llyfreu hwy, yn gyn amled, a' bod hôll Europa yn gyflawn o'i hiaith a'e llyfreu hwy, yn tragwyddoli moliant a' gogoniant i'r gwledyth hynny, ac i'r Awduriaid ac i Ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd. A' gwedi yr hein hynn, y dilynasant yr Ieithoedd cyffredin megys yr Italieith, yr Hyspanieith, y Phrangec, yr Almanieith, y Saesônec, Scotieith, a' ieithoedd eraill heb law hynny a fedrwn