Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu hadrodd ony bei rhac ofn 'ych trablino. A'r ieithoedd hynn oll a gyfarfûant o amser i amser a Ieithyddion a Ieithymgeleddwyr hawddgaraf o'r byd, ac ewyllysgaraf i ymgeleddu a' choledd, a mawrhâu bob un o honynt ei iaith 'i hun: hyd ynn y diwedd nadd oes cymeint ac un meddir o'r holl ieithoedd cyffredin uchod na bod ynddei holl gelfyddodeu'r byd wedi eu cyfleu a'i cymhennu yn brintiêdic mywn. collyfreu, a barhâont hyd tra byddo ffurfâfen. Yr hyn beth a fagodd ddirfawr barch a' mawrhad tragwyddawl, nyd yn unic i'r leithyddion, a'r Gwrteithwyr, a'r Awduricit; ond hefyd i'r Gwladwyr a'r cenhedloedd hynny. Eithr ninheu y Cymry (mad gweision gwychion) rhai o honon' ynn myned morr ddiflas, ac mor fursenaidd, ac (yn amgenach nog un bobl arall o'r byd) mor benhoeden, ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedyd cyn hiaith. eyn hunain; ief a gwynn eyn byd ryw rai o honom. fedru bod mor findlws, a cymerud arnam ddarfod inni o gwbl abergôfi y Gymraec, a' medru weithion (malpei) ddoedyd Saessnec, a' Phranghec, ac Italieith, neu ryw iaith alltudaidd arall parywbynnac a fô honno oddieithr Cymraec, cytboet wir ynn y cyfrwng hynn, na's medrom y ganfed rann o'r ddieithriaith at gymherasam arnam ei gwybod a'i doedud mor hyfedr. Eithr nid yw y fursenaidd sorod hynn o Gymry (os teg doydud y gwir) onyd gohilion a llwgr, a' chrachyddion y bobl, a'i brynteion; a megys cachadurieit