Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wlad. Ac ynn yr un orseddfa a chadeir a'r rhai hynn y dylid llehau a gosod y rhai a' fynnynt doddi a' difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a' dodi iaith y Sacson yn ei lle hi: Yr hynn beth yssydd ymhossibl i gwblhau a'i berffeithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry a'i gwneuthur yn Seisnic.




Hanes ysgrifennu'r Gramadeg"A mwyaf parth o'r llyfr yma a fyfyriwyd ac a feddyliwyd yn gyntaf, yn Nhy y Pendefic M. Morgan Meredydd o ymyl y Bugeildy ynn Nyffryn Tafida o fywn Swydd Faesyfed: ynn y lle lawer gwaith y bu fawr fy nghroeso, a'm hansawdd o fwyt a' llynn, gan y gwrda a'r 'wreicdda. Eithr diweddbarth y Llyfr hwnn a fyfyriwyd dann berthi a' dail gleision. mywn gronyn o Fangre i mi fyhûnan a 'elwir y Clûn Hir, ym mlaen Cwm y Llwch, a' thann 'Odreuon Mynydd Bannwchdenni. Rhai a'eilw y Mynydd hynn [Bann Arthur,] eraill [Moel Arthur]. Dann grib y Foel honn, ac yn ei harffet, y mae Llynn digon 'i faint, ac yn afrifed ei ddyfnder, ac yn rhyfedd ei ansawdd; o ethryb [mal y cerddant chwedleu] ny 'welspwyt eirioet ederyn o'r byd yn cyrchu nac iddo, nac atto, nac yn nofiaw arno: onyd yn hollol ymwrthod oc êfo: a rhai a ddywedant, na's gnotáynt nag anifeilieid na milod o unrhyw, yfed ddim dwfr o hono. A' llawer o enrhyfeddôdau eraill (ac o rann