canfod arr brydieu betheu dieithr dros benn yn nghylch y Llwch yma) a ydys ynn eu hadrodd gann gyffredin y "Wlad honno: ac yn enwedic gann y sawl a arfêrynt o ymgyrchu i'r Moelydd a'r Banneu hynny er mywn bugeila. A'r Llyn neu'r Llwch hynn a 'elwir Llynn Cwmm y Llwch. Eithr ymchwêlwn bellach i adrodd taw ym mha le bynnac y dechreuwyd, nac y cenôlwyd, nac y diwêddwyd y Llyfr yma; nag ym mha fann bynnac y myfyriwyd un dim arno, i chwi, ac er eych mwyn chwi y gwnaethpwyd hynn oll. Ac o'r ethryb hynny, odd oes dim ynddo a fâ tebyc i wneuthur dim llês nag i'r Iaith, nag i chwitheu y Pendefigion a' Boneddigion Gwlad Gymry, y mae yn dda iawn gann fy nghallon; onyd ef, gadawer heibio mal diffrwythbeth, a dechymyger ryw beth arall a fó gwell nog ef, a' charer fi (o's mynner) am fy ewyllys da, er i mi o ddamchwain fôd (a hynny of eisieu gallu) yn ddyffygiol (scatfydd) o barth perffeithio fy ngorchwyl. A' hynn a ddywedaf wrthych' cynn ymado o honof â chwi, na 'wnaethpwyt ernioed ddim. yn y byd yma yn gyn gystadled, nac yn gyn berffeithied, na's gallei ryw ddyn cynfigennus, a 'drwc ei ewyllys, o'r ddrwc dafawt, gymryt arno anurddo y pêth da hynny a'i 'eiriau duon marwaraidd, o damwheiniei iddo ar adêgeu ymgyfarfod ac undyn arall. anneallus a fwriei ei goel arno, ac a gredei i'r pêth a ddywetei. Weithion rhac tra gormodd blino arnoch', yma cymhêraf fy nghennad ganwch', gan
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/64
Prawfddarllenwyd y dudalen hon