Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MORUS KYFFIN.

MAE amser geni a marw Morus Kyffin yn anhysbys. Credir mai ail fab oedd i Richard Kyffin, o'r Glasgoed, Llansilin, Sir Ddinbych. Ymha ysgol ac ymha goleg y bu nid oes hanes, ond mae'n amlwg oddiwrth ei waith ei fod yn hyddysg mewn amryw ieithoedd ac wedi derbyn addysg a diwylliant da. Ei brif waith yw "Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr" a gyhoeddwyd yn 1594 (neu yn of Charles Edwards yn 1595) a chydnabyddir gan bawb sy'n abl i farnu fod ei Gymraeg, o ran dullwedd a chystrawen, gyda'r Cymraeg goreun ysgrifennwyd erioed. Gwelir ei fod yntau yn un o'r band gweithgar, gwladgarol, awyddus am daenu gwybodaeth o'r Scrythyr drwy Gymru a flodeuent yn amser Elisabeth, ac mae'n debyg mai un rheswm am rymusder a chadernid eu hiaith ydyw iddynt fod yn llygad—dystion o'r ymdrech fawr rhwng Lloegr a Spaen, rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth am y llaw uchaf

Cyfieithiad o'r Lladin ydyw "Deffyniad y Ffydd" o waith Dr. Jewel, esgob duwiol dyscedig Salisbury, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1562, dan yr enw "Apologia Ecclesiae Anglicance." Ei enw yn llawn yn y cyfieithiad Cymraeg ydyw, "Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr; lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ac anghywirdeb Crefydd Eglwys Rhufain: Anghenrheidiol i bawb ei ddeallda madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw. Wedi ei gyfieithu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin."

Ar ddechreu'r llyfr y mae "Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl," a charwn i bawb ei ddarllen a'i ddwys ystyried.