"DYMMA iti ar les d'enaid, yn hyn o lyfr, sylwedd a chrynodeb y Ffydd wir Gatholic, i'th hyfforddi a'th berffeithio yn llwybr gwasanaeth Duw ag iechydwriaeth dyn. Wrth ddarllen hwn y cei di wybod hanes a deall gwirionedd y Grefydd Gristnogawl, a chyda hynny ddanghossiad a datguddiad amhuredd crediniaeth Pâb Rhufain. Rhoed y Goruchaf Dduw iti ochel y drwg a chalyn y da.
Mi a dybiais yn oref adel heibio'r hen eiriau cymreig yr rhai ydynt wedi tyfu allan o gydnabod a chydarfer y cyffredin, aga ddewisais y geiriau howssaf, rhwyddaf, a sathredicca 'gallwn, i wneuthur ffordd yr ymadrodd yn rhydd ag yn ddirwystrus i'r sawl ni wyddant ond y gymraeg arferedig. Eithr am ryw air angenrheidiol, yr hwn ni ellid dangos sylwedd ei rym na sylwedd ei arwyddocad yn gymraeg, e ddarfu i mi yn ôl arfer yr iaith Saesonaeg, Ffrangaeg, iaith Itali, iaith Spaen, a bagad o ieithoedd eraill, gymryd y cyfryw air o'r Groeg, neu o'r Lladin yn y modd mae'n gynefin gan—mwyaf ymhob gwlad ynghred er ystalm o amser. Nid oes nemawr o'r fath eiriau ag o'r rhai rheitiaf di a gei hysbysrwydd a deonglad ar eu penneu eu hun ar ol diwedd hyn o Ragddoediad. Er maint fu fy ngofal am myfyrdod yn hyn o beth, etto mi a wna gyfri gael fy-marnu a beio arnaf gan ryw fath a'r goeg ddynion, y rhai a