Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

graffant ar ymbell air ymma ac accw, ag a ddoedant yn y fan, "wele, geiriau seisnigaidd a geiriau lladingaidd yw rhain yn dwyno'r gymraec:" f'atteb i'r rheini ydyw'r ddihareb, "Ni Wyr, ni Welodd, ni Ddysc." Druain gwerin, ychydig a wyddant, llai a welsant, ag nid gwiw sôn am ddyscu iddynt. My fi a faddeual i'r rhai hyn eu hanwybodaeth a'u ffolineb, ag adawaf i rai eraill chwerthin am eu penneu. Hawdd yw gwybod am ryw eiriau seisnig, nad oes ag na bu erioed eiriau cymreig i'w cael: a hefyd may geiriau yn dyfod o'r Ffrangaec yw'r rhan fwyaf o'r rhai y mae'n hwy yn tybied eu bod yn seisnigaidd. Ag am y geiriau lladingaidd, pwy nis gwyr nad yw'r iaith Gymraec yn ei herwydd, ddim amgen, onid hanner ladin drwyddi. Mi' allwn pe bae gennyf hamdden wneuthyr llyfr digon ei faint o'r geirieu cymreic arferedig a fenthycciwyd, nid yn unig o'r Lladin a'r Ffrangacc, eithr o iaith Itali ag iaith Spaen hefyd; heblaw'r dafod Roeg, ag Ebryw, a'r cyfryw. Rhyw rai diddysc, di-synwyr, a ddoedant ddarfod i'r Ieithoedd hynny fenthyccio gan y Gymraeg, ac nid yr iaith Gymraeg genthyn-nhwy. Nid gwiw mor ymrysymmu a'r fath ynfydion cynhwynol, namyn eu gadel mewn anwiredd ag oferedd. Yn wir, chwith iawn. yw dal sylw ar lawer o wyr Eglwysig cymreig yn byw ar bris eneidieu dynion, a bagad ereill o Gymry yn cymeryd arnynt eulun dysc a goruchafiaeth heb genthynt fri'n y byd ar iaith eu gwlad, eithr rhusso