Gwirwyd y dudalen hon
RHAGAIR
Dyma ail argraffiad o Glasuron Rhyddiaith Cymru at wasanaeth plant yr Ysgolion Canolraddol a myfyrwyr y Colegau. Mae'r darnau bron yr un fath ag yn yr argraffiad cyntaf, ond y mae'r orgraff wedi ei newid i fod yn fwy tebyg i'r orgraff wreiddiol-yn lle'r ymgais i roddi gwisg ddiweddar i Gymraeg yr hen ysgrifennwyr clasuroi.
Am fywyd M. Kyffin, gweler rhagymadrodd campus Mr. W. P. Williams yng nghyfres llyfrau Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, a gyhoeddir mor ddestlus gan Jarvis a Foster; ac iddynt, hefyd, y dymunaf ddatgan fy niolch cynhesaf am bob cymorth ac am eu holl fwyneidd-dra gyda'r llyfryn hwn.
EDWARD EDWARDS.
- BRONALLT, ABERYSTWYTH,
- Chwefror 8, 1908.