Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y MABINOGION

Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys heb hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac or awelsei ef o helgwn ybyt, ny welsei cwn un lliw ac wynt. Sef lliw oed arnunt, claerwynn llathreit, ac eu clusteu yn gochyon. Ac val y liathrei wynnet y cwn y llathrei cochet y clusteu. Ac ar hynny att y cwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys a ladyssei y carw ymeith, a llithyaw y erchwys ehunan ar y carw. Ac val y byd yn llithyaw y cwn, ef a welei varchawc yn dyvot yn ol yr erchwys y ar varch erchlas mawr, a chorn canu am y vynwgyl, a gwisc o frethyn llwyttei ymdanaw yn wisc hela.

[Pwyll Penndevic Dyfet.]

——————

Pa hyt bynnac y buant ar y fford wynt a doethant y dyvet, ac arberth a gyrchassant. Allad tan a wnaethant, a dechreu ymborth a hela a threulaw mis velly: a chynnull eu kwn attunt, a bot velly yno vlwydyn. A boregweith kyvodi pryderi a manawydan y hela, a chyweiryaw eu kwn a