Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynet odieithyr y llys. Sef a wnaeth rei or cwn, kerdet oe blaen a mynet y berth vechan a oed geyr eu llaw. Ac ygyt ac yd aant yr berth kiliaw yn gyflym a cheginwrych mawr gantunt ac ymchoelut at y gwyr. Nessawn heb y pryderi parth ar berth y edrych beth yssyd yndi. Nessau parth ar berth a wnaethant. Pan nessayssant, llyma vaed coet claerwyn yn kyvodi or berth. Sef a oruc y cwn o hyder y gwyr ruthraw idaw: ssef a wnaeth ynteu adaw y berth a chilyaw dalym y wrth y gwyr. Ac yny vei agos y gwyr idaw kyvarth a rodei yr kwn heb gilyaw yrdunt. A phan yghei y gwyr y kiliei eilweith ac y torrei gyvarth. Ac yn ol y baed y kerdassant yny welynt gaer vawr aruchel, a gweith newyd arnei yn y lle nywelsynt na maen na gweith eiryoet, ar baed yn kyrchu ye gaer yn vuan ar kwn yn y ol. A gwedy mynet y baed ar kwn yr gaer, ryvedu a wnaethant welet y gaer yn y lle ny welsynt eiryoet weith kyn no hynny. Ac o benn yr orsed edrych a wnaethant ac ymwarandaw ar kyn. Pa hyt bynnac y bydynt velly ny chlywynt un or kwn na dim ywrthunt. Arglwyd heb y pryderi mi a af yr gaer y geissaw chwedleu y wrth y cwn. Dioer heb ynteu nyt da dy gyghor vynet yr gaer honn nys gweleist eiryoet, ac o gwney vyg kyngor i nyt ey idi: ar neb a dodes hut