Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y wlat a beris bot y gaer ymma. Diocr heb y pryderi ny madeuaf i vyg cwn. Pa gyghor bynnac a gaffei ef y gan vanawydan y gaer a gyrchawd ef. Pan doeth yr gaer, na dyn na mil, nar baed nar cwn, na thy nac anhed nys gwelei yn y gaer. Ef a welei val am gymher- ved llawr y gaer ffynnawn a gweith o vaen marmor yny chylch. Ac ar lan y fynnawn, kawc eur uch beon llech o vaen marmor, a chadwyneu yn kyrchu yr awyr, a diben nys gwelei arnunt. Gorawenu a wnaeth ynteu wrth decket yr eur, a dahet gweith y kawc. A y dyvot a wnaeth yn yd oed y kawc ac ymavael ac ef: ac val yd ymavaelawd ar kawc, glynu y dwylaw wrth y kawc ae draet wrth y llech yd oed y kawc yn sevyli arnei: a dwyn y lewenyd y gantaw hyt na allei dywedut un geir, a sevyil a wnaeth velly.

[Manawydan fab Llyr.]

——————

Ac [wynt] a welsant y vorwyn yn eisted y mywn cadeir o rud eur, a awdwr, gostwng ar tai eu glinyeu a wnaethant y kennadeu. Amherodres ruvein hanpych gwell. Ha wyrda heb y vorwyn ansawd gwyr dyledawc a welaf arnawch, ac arwyd kenadeu. Py wattwar a wnewch chwi Am danafi. Na wnawn arglwydes un gwattwar