Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am danat, namyn amherawdyr ruvein ath welas trwy y hun. Hoedel nac einyoes nyt oes idaw am danat. Dewis arglwydes a geffy y gennym ni, ae dyvot gyt a ni yth wneuthur yn amherodres yn ruvein, ae dyvot yr amherawdyr yma yth gymryt yn wreic idaw. Ha wyrda heb y vorwyn amheu yr hynn a dywedwch chwi nys gwnafi, nae gredu hevyt yn ormod. Namyn os mivi a gar yr amherawdyr, deuhet hyt yman ym ol, Ac y rwng dyd a nos y kerdassant y kenadeu drachevyn, ac val y diffykyei eu meirch y prynynt ereill o newyd. Ac val y doethant hyt yn ruvein, kyvarch gwell yr amherawdyr a wnaethant ac erchi eu koelvein, a hynny a gawssant val y notteynt. Nia vydwn gyvarwyd itt arglwyd heb wynt ar vor ac ar tir hyt y lle y mae y wreic vwyhafa gery. A nia wdam y henw ae chystlwm ae boned. Ac yn diannot y kerdwys yr amherawdyr yn y luyd, ar gwyr hynny yn gyvarwyd udunt. Parth ac ynys prydein y doethant dros vor a gweilgi. Ac y goresgynnwys yr ynys ar veli mab manogan ae veibion, ac y gyrrwys ar vor wynt, ac y deuth racdaw hyt yn arvon, ac yd adnabu yr amherawdyr y wlat mal y gwelas. Ac val y gwelas kaer aber sein, weldy racco heb ef y gaer y gweleis i y wreic vwyhaf a garaf yndi. Acy doeth racdaw yr gaer ac yr neuad. . . . . Y vorwyn a