Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welas trwy y hun ef ae gwelei yn eisted y mywn kadeiro eur. Amherodres ruvein heb ef hanpych gwell, a mynet dwylaw mynwgyi idi a wnaeth yr amherawdyr.

[Breidwyt Maxen Wledic.]

——————

Dyvot a oruc hitheu, a chamse sidan filamgoch ymdanei, a gwrd dorch rud eur am vynwgyl y vorwyn, a mererit gwerthvawr yndi a rud emeu. Melynach oed y pheon no blodeu y banadyl: gwynnach oed y chnawt no distrych tonn. Tegach oed y dwylaw ae byssed no channawan gotrwyth o blith man gaean ffynnawn ffynhonws. Na golwc hebawc mut, na golwe gwalch trimut nyt oed olwc degach nor eidi. Gwynnach oed y dwyvron no bronn alarch gwynn. Cochach oed y deurud nor fluon cochaf. Y sawl ae gwelei kyflawn vydei oe serch. Pedeir meillonen gwynnyon a vydei yn y hol pa fford bynnac y delhei, ac am hynny y gelwit hi olwen.

[Kulhwch ac Olwen.]

——————

Ac ymeith yd aeth owein, ae wahawd a wnaeth yr iarlles idaw, ef ae holl gyfoeth. Ac ny mynnwys owein namyn kerdet racdaw eithafoed byt a diffeithwch. Ac val yd oed yn kerdet ef a