Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywei disgrech vawr y mywn koet, ar eil ar dryded. A dyvot yno aoruc owein. A phan doeth yno, ef a welei clocvryn mawr ygkanawl y koet, a charrec lwyt yn ystlys y bryn, a hollt a oet yn y garrec, a sarff a oed yn yr hollt, a llew purdu a oed yn ymyl y garrec. A phan geissei y llew vynet o dyno y neidei y sarff idaw oe vrathu. Sef a oruc owein dispeilaw cledyf a nessau att y garrec. Ac val yd oed y sarff yn dyvot or garrec, y tharaw a oruc owein a chledyf yny vyd yn deu hanner, a sychu y gledyf a dyfot yr fford val kynt. Sef y gwelei y llew yn y ganlyn, ac yn gware yn y gylch val milgi a vackei e hun, a cherdet a orugant ar hyt y dyd hyt ucher. A phan vu amser gan owein orffowys, disgyanu a oruc, a gellwng y varch y mywn dol goedawc wastat. A llad tan a oruc. A phan vu barawt y tan gan owein, yd oed gan y llew dogon o gynnut hyt ym penn teirnos: a difflannu a oruc y llew y wrthaw. Ac yn y lle nachaf y llew yn dyvot attaw a chaeriwrch mawr telediw gantaw, ae fwrw ger bronn owein, a mynet am y tan ac ef. A chymryt a oruc owein y kaeriwrchae vlighaw, a dodi golwython ar vereu ygkylch ytan. Arodi y iwrch namyn hynny yr llew oe yssu. Ac val yd oed owein velly ef a glywei och vawr, ar eil ar dryded, yn gyfagos idaw. A gofyn a oruc