Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

owein ae dyn bydawl. Ie ys gwir heb y dyn. Pwy wyt titheu heb yr owein. Dioer heb hi Lunet wyfi, llawvorwyn iarlles a ffynnawn. Beth a wney di yma heb yr owein. Vyg karcharu heb hi yd ydys, o achaws marchawc a doeth o lys arthur y vynnu y iarlles yn priawt, ac a vu rynnawd gyt a hi, ac yd aeth y dreiglaw llys arthur. Ac my doeth vyth drachefyn, a chedymdeith y mi oed ef mwyaf a garwn or byt. Sef a oruc deu weisson ystavell y iarlles y oganu ef ae alw yn twyllwr. Sef y dywedeis i na allei y deu gorff hwy amrysson ae un corff ef. Ac am hynny vyg karcharu yn y llestyr maen, a dywedut na bydei vy eneit ym corff o ny delei ef ym amdiffyn i yn oet y dyd. Ac nyt pellach yr oet no thrennyd, ac nyt oes ymi neb ae keissaw ef. Sef yw ynteu owein fab uryen. A oed diheu gennyt titheu pei gwyppei y marchawchwnnw hynny y deuei yth amdiffyn. Diheu y rof i a duw heb hi. A phan vu dogyn poethet y golwython, eu rannu a oruc owein yn deu hanner y ryngtaw ar vorwyn: a bwytta a orugant, a gwedy hynny ymdidan yay vu dyd drannoeth.

[Owein a Lunet]

——————