Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna y kyvarvu ac ef yn eisted ar benn cruc y wreic deckaf or a welsei eiryoet. Mi a wn dy hynt heb hi, mynet yd wyt y ymlad ar adanc, ac ef ath lad. Ac nyt oe dewred namyn oe ystryw. Gogof yssyd idaw, a philer maen yssyd ar drws yr ogof, ac ef a wyl pawb or a del ymywn ac nys gwyl neb evo. Ac a llechwaew gwennwynic o gysgawt y piler y llad ef bawp. A phei rodut ti dy gret vyg caru i yn vwyhaf gwreic mi a rodwn itt vaen val y gwelut eve pan elut y mywn ac ny welei ef dydi. Rodaf myn vyg kret heb y peredur. Yr pan yth weleis gyntaf mi ath gereis. A pha le y keisswn i dydi. Pan geissych di vyvi keis parth ar india. Ac yna y difflannwys y vorwyn ymeith gwedy rodi y maen yn llaw peredur, Ac ynteu a deuth racdaw parth a dyffrynn avon; a gororeu y dyffryn oed yn goet, ac o pob parth yr avon yn weirglodyeu gwastat. Ac or neill parth yr avon y gwelei kadw o deveit gwynnyon, ac or parth arall y gwelei kadw o deveit duon. Ac val y brevei un or deveit gwynnyon y deuei un or deveit duon drwod ac y bydei yn wenn, ac val brevei un or deveit duon y deuei un or deveit gwynnyon drwod ac y bydei yn du. A phrenn hir a welei ar lann yr avon, ar neill banner a oed idaw yn llosci or gwreid hyt y vlaen, ar hanner