Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wasanaeth dirfawr i'r Gymraeg trwy ei 'scrifnndu" mewn dull mor ddeniadol ac eglur. Canmolir ei arddull a'i iaith yn uchel gan Morus Kyffin, yr hwn a ddywed ei fod "yn ddarn o waith dyscedig ynghelfyddyd gramadec, mor buraidd, mor lathraidd ag mor odidawg ei ymadroddiad da ellir damuno dim perffeithiach yn hyny o beth."

Cyhoeddwyd, yn 1883, ad-argraff o'r hen Ramadeg gan Henri Gaidor a D. Silvan Evans. Yo y darnau hyn newidiais ei sillebiaeth er mwyn ei wneud yn haws i'w ddarllen, oherwydd yn y gwreiddiol ceir l, d, ac u, am ll, dd, ac w, ac wrth ben u yo fynych mae hirnod pan y saif am un. Cywirais ambeil i air hefyd lle yr oedd camargraff amlwg, canys cwyna Griffith Roberts ei hun nad oedd yr Italiaid ym Milan yn deall eu gwaith na iaith ei lyfr.